|
Join the Mailing List |
About
Yn enedigol o blwyf Llangristiolus yng nghalon Ynys Môn oddi ar arfordir Gogledd Cymru, mae'r gantores/gyfansoddwraig Meinir Gwilym wedi sicrhau lle iddi ei hun fel un o'r artistiaid cyfrwng Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed. Ysgogodd rhyddhau ei CD gyntaf Smôcs, Coffi a Fodca Rhad (2002) ymateb ysgubol, gyda'r llais unigryw a'r geiriau gonest, y gwead o sain celtaidd/acwstig/roc-gwerin/pop, cafodd ei chofleidio yn un o'r casgliadau mwyaf gwreiddiol ac ysbrydoledig i ddod allan o Gyrmu ers blynyddoedd. Gwerthwyd miloedd o gopiau o'r albym ddilynol Dim ond Clwydda o fewn ychydig fisoedd i'w rhyddhau yn Nhachwedd 2003. Mae Meinir Gwilym wedi ymddangos ar lwyfannau pob un o brif wyliau Cymru, yn cynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau, Maes B, Sioe Fawr Llanelwedd a Gŵyl y Faenol Bryn Terfel yn 2003 a 2005. Perfformia gyda'i band aml-ddiwylliannol mewn lleoliadau mawrion neu ar ei phen ei hun, yn acwstig mewn digwyddiadau llai.
Golygodd cwblhau ei gradd mewn Llenyddiaeth Gymraeg ac Athroniaeth yn Haf 2004 y gallai Meinir ganolbwyntio'n gyfangwbl ar ei cherddoriaeth. Gyda'i delwedd gonest, ddi-lol, mae'n cael ei hysbrydoli gan fywyd bob dydd, yn lleol ac yn fyd-eang, gan gyfansoddi ei holl ganeuon ei hun.Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, mae hi wedi bod yn torri cwys yn y Farchnad Ewropeaidd, gyda gigs llwyddianus mewn sawl prifddinas Ewropeaidd.
Darlledwyd rhaglen awr arbennig ar S4C yn dilyn bywyd Meinir am flwyddyn ar Fawrth y 3ydd 2005, a oedd yn cynnwys ymweliad â Yamaha, y cwmni sy'n cefnogi Meinir yn swyddogol. Disgrifia Meinir y gefnogaeth a ddatganodd y cwmni rhyngwladol hwn iddi, a'r cydweithio agos fu rhyngddynt wedyn yn un o uchafbwyntiau ei gyrfa hyd yn hyn.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Meinir yn hyrwyddo ei halbym ddiweddaraf ‘Sgandal Fain' a ryddhawyd ar Dachwedd 28ain 2005. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ddeunydd newydd ac yn ystod y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener mae'n cyd-gyflwyno sioe geisiadau'r prynhawn –Dylan a Meinir - ar BBC Radio Cymru.
Meinir Gwilym
Born and raised in the small village of Llangristiolus in the heart of the Isle of Anglesey (Ynys Môn) off the North Wales coast, singer-songwriter Meinir Gwilym has established herself as one of the best selling Welsh language artists ever. Her first release Smôcs, Coffi a Fodca Rhad (Cigarrettes, Coffee and Cheap Vodka) in 2002 met with phenomenal response with her unique voice and punchy lyrics, Celtic/acoustic/folk-rock/pop being hailed as one of the most original and enspired compilations to come out of Wales in years. The follow-up album Dim ond Clwydda (Nothing but Lies) sold thousands within the first few months of release in November 2003. Meinir Gwilym has appeared at all major festivals in Wales, including Sesiwn Fawr Dolgellau, Maes B, The Royal Welsh Show and Bryn Terfel's Faenol Festival 2003, and performs either with her multicultural band in larger venues or on her own, acoustically at small events.
Having completed her degree in Welsh Literature and Philosophy in the summer of 2004, Meinir was able to focus purely on her music. With her no-gimmicks image, she gets inspiration from everyday life, locally and worldwide and composes all her own songs. In the past year she has also been making inroads to the European market with successful gigs in several European capitals.
On March the 3rd 2005, a special one hour programme following Meinir for a year was broadcast on S4C, which included a behind the scenes visit to Yamaha by whom she is endorsed. Meinir describes her official endorsment by Yamaha as one of the pinnacles of her career so far.
Over the past year Meinir has been promoting her latest album ‘Sgandal Fain' released November 28th 2005. She is currently in the studio working on new material, and during the day Meinir co-presents the afternoon request show on BBC Radio Cymru, Dylan a Meinir.



Meinir Gwilym









